Adroddiad drafft Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

CLA(4)-01-14

 

CLA341 - Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2014

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013  a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 (“y prif Reoliadau”).

 

Mae’r diwygiadau yn rheoliadau 5 a 16 yn diwygio’r rhestr o bersonau nad oes angen iddynt ddangos eu bod yn breswylwyr arferol, yn gyntaf drwy ddiweddaru’r ddarpariaeth ar gyfer personau sydd â chaniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig, ac yn ail drwy gynnwys y gwladolion Croatia hynny sy’n ddarostyngedig i’r cynllun awdurdodi gweithwyr ac a drinnir fel gweithwyr o dan y cynllun hwnnw.

 

Mae’r diwygiadau yn rheoliadau 6(a), 7, 9(a), 10(a), (b) a (d) i (f), 17, 27 a 28(a), (b) a (d) i (f) yn cynyddu rhai o’r ffigurau a ddefnyddir wrth gyfrifo a oes gan berson hawl ai peidio i gael gostyngiad, a swm unrhyw ostyngiad.

 

Mae’r diwygiadau a wneir gan reoliadau 8,11,31 a 32 yn darparu ar gyfer diystyru taliadau penodol a wneir gan lywodraeth leol at ddibenion lles, ôl-ddyledion credyd cynhwysol penodol a thaliadau ar sail oed penodol wrth asesu cyfalaf ceisydd.

 

Mae’r diwygiadau yn rheoliadau 3, 4, 6(b), 9(b), 10(c), 12, 14, 15, 18 i 26, 28(c), 29 a 30 yn cywiro gwallau a ymddangosodd yn y prif Reoliadau.

 

Gweithdrefn:  Cadarnhaol 

 

Materion technegol: craffu

 

Nodwyd y pwyntiau canlynol i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

 

Cafwyd cyfeiriadau anghywir at ysbytai annibynnol yn yr Alban yn y diffiniad o ‘ysbyty annibynnol’ yn y prif Reoliadau.  Diben rheoliadau 3(a) ac 11(a) o’r Rheoliadau presennol yw cywiro’r gwallau hynny. Mae’r testun Saesneg yn gywir, ac yn rhoi cyfeiriad at ‘independent hospital’ (ysbyty annibynnol) yn lle’r cyfeiriad at ‘independent helathcare service’.  Yn anffodus mae’r testun Cymraeg yn parhau i gyfeirio at ‘gwasanaeth gofal iechyd annibynnol’.

[Rheol Sefydlog 21.2 – anghysondeb rhwng ystyr y testun Cymraeg a’r testun Saesneg]

 

 

Rhinweddau: craffu

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Rhagfyr 2013